Agorodd ein Harddangosfa Ddigidol ym mis Chwefror 2014. Wedi’i lleoli yn Neuadd y Sir, mae ein hyb newydd sbon yn rhoi profiad "ymarferol" o'r technolegau a'r offer newydd i Fusnesau Caerdydd. Weithiau, y ffordd hawsaf o ddysgu am dechnoleg newydd a deall sut y gall fod o fudd i'ch busnes yw drwy ei gweld â'ch llygaid eich hun. Rydym hefyd wedi creu ystafell gyfarfod a chyfleusterau cynadledda modern o’r radd flaenaf.
Caiff y dechnoleg ei defnyddio i ddangos y cyfleoedd gwych y bydd cysylltedd cyflym yn eu cynnig i fusnesau. Byddwn yn gallu cynnig cyngor ar Gynllun Talebau Cysylltedd Caerdydd a’ch helpu â'r broses ymgeisio.