Disgwylir i'r Arddangosfa Ddigidol agor ym mis Chwefror 2014. Yn Neuadd y Sir, bydd ein hyb newydd sbon yn rhoi profiad "ymarferol" o'r technolegau a'r offer newydd i Fusnesau Caerdydd. Weithiau, y ffordd hawsaf o ddysgu am dechnoleg newydd a deall sut y gall fod o fudd i'ch busnes yw drwy ei gweld â'ch llygaid eich hun. Byddwn hefyd yn creu ystafell gyfarfod fodern a chyfleusterau cynadledda.
Caiff y dechnoleg ei defnyddio i ddangos y cyfleoedd gwych y bydd cysylltedd cyflym yn eu cynnig i fusnesau. Byddwn yn cynnig cyngor ar Gynllun Talebau Cysylltedd Caerdydd ac yn eich helpu â'r broses ymgeisio.
Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law ac yn hapus i'ch helpu.