Dros y misoedd nesaf, bydd y rhai craff yn eich plith yn sylwi ar nifer gynyddol o flychau bach yn cael eu rhoi ar adeiladau cyhoeddus, polion CCTV, goleuadau stryd a safleoedd bws ledled Caerdydd.
Nid rhagor o gamerâu CCTV yw'r rhain!
'Pwyntiau mynediad' fydd y blychau bach hyn, neu 'Bwyntiau Wi-Fi'. Po agosaf yr ydych at un, y cryfaf, y cyflymaf a'r mwyaf dibynadwy y bydd eich cysylltiad (nid yw hynny'n golygu y bydd yn rhaid i chi eistedd o dan un drwy'r dydd i'w ddefnyddio! Mewn gwirionedd, rydych yn annhebygol o sylwi ar leihad mewn cyflymder neu ansawdd lle bynnag yr ydych yng nghanol y ddinas).
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â BT i gynnig y profiad digidol arloesol hwn i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr. Gall defnyddwyr gysylltu â'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac aros ar-lein tan i chi gael digon (os yw hynny'n bosib). Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn cynnig gwasanaethau lled band uchel a fideos - a'r cyfan heb ddefnyddio eich lwfans data symudol.
Felly y tro nesaf y byddwch yng Nghaerdydd ac angen dod o hyd i rywbeth yn gyflym, cysylltwch â rhwydwaith CardiffStreetWi-Fi i ddechrau chwilota!
Mae'r canlynol ymysg yr ardaloedd a fydd yn manteisio ar y gwasanaeth Wi-Fi gwych hwn:
Fel arall, edrychwch ar y map hwn am ganllaw manwl ar y mannau gorau i gysylltu â Wi-Fi Stryd Caerdydd.
Cam 2 y prosiect bellach wedi lansio ac mae'n cynnwys:
4G
Caerdydd oedd un o'r dinasoedd cyntaf yn y DU i gael cysylltiad 4G, a bydd y bartneriaeth â BT yn ehangu rhwydweithiau 4G y ddinas ymhellach drwy dechnoleg cell fach newydd a gaiff ei defnyddio ar Asedau Stryd y Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o gwmpas i rwydweithiau 4G a bod mwy o gapasiti gan ddefnyddwyr. Mae profion Cell Fach ar y gweill.