Manylion y Dechnoleg

Mae’r canlynol ymhlith y dechnoleg sydd gennym i’w harddangos:

 

Sgrîn Cyflwyniadau Bwrdd SMART 
smartboard

Gellir gwneud cyflwyniadau cydweithredol yn hawdd gyda’r Bwrdd SMART. Gan gynnwys sgrin LCD manylder uwch, digysgod ag ôl-olau LED, mae gan y sgrin alluoedd amlgyffyrddiad ac maen ymateb i ystumiau cyffwrdd naturiol.  I’w ddefnyddio gyda phecyn Microsoft Office ymhlith eraill, gall y Bwrdd SMART wneud cyflwyniadau’n fwy gweledol, yn fwy rhyngweithiol ac yn fwy diddorol.

 


 Fideo Gynadledda Polycom Group 500 

vc

Mae Polycom Group 500 yn ddelfrydol ar gyfer ystafelloedd cynadledda ac amgylcheddau cydweithredol eraill. Gyda fideo manylder uwch, sgriniau deuol a rhyngwyneb defnyddwyr syml, mae’n hawdd cymryd rhan mewn galwadau cynadledda gyda chleientiaid ym mhedwar ban byd. Mae’r feddalwedd hefyd yn eich galluogi i gysylltu’n ddiwifr â’ch gliniadur, ffôn symudol neu lechen i rannu cynnwys. 

 


 Byrddau Sgriniau Cyffwrdd Samsung SUR40 

touch table

Mae’r SamsungSUR40 yn defnyddio meddalwedd PixelSense Microsoft ac mae wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio gan gwsmeriaid masnachol mewn lleoliadau cyhoeddus yn bennaf.  Mae pobl yn rhyngweithio â’r cynnyrch drwy gyffwrdd â’r sgrin yn uniongyrchol a thrwy osod gwrthrychau ar y sgrin. Nid oes angen defnyddio llygoden na bysellfwrdd cyfrifiadur traddodiadol i weithredu’r ddyfais, ac mae’n hawdd i’w weithredu. Mae’r system wedi’i dylunio i alluogi nifer o bobl i rannu cynnwys ar yr un pryd heb gyfyngiadau dyfais un defnyddiwr.  

 


 Peiriant Argraffu CubeX Trio 3D

3d prinT

Mae’r CubeX yn argraffu mewn tri dimensiwn drwy doddi ffilament plastig, ac yna’n ei ddefnyddio i ddarlunio mewn haen main iawn. Yna mae’n gosod un haen main o blastig ar ben y llall nifer o weithiau, gan adeiladu eich syniad fesul tafell o’r gwaelod i fyny nes bod gennych wrthrych plastig sy’n barod i chi ei ddal yn eich dwylo. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer adeiladu prototeipiau’n hawdd mewn modd cost effeithiol. 
 


 Peiriant Sganio MakerBot Digitizer 3D 

SCANNER

Mae hwn yn sganio gwrthrychau i greu modelau tri dimensiwn y gallwch eu newid, eu gwella, eu rhannu a’u hargraffu mewn tri dimensiwn. Nid oes angen unrhyw brofiad dylunio, modelu 3D na phrofiad Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur arnoch, ac mae wedi’i fwriadu ar gyfer arbrofwyr a busnesau sy’n barod i ddechrau creu gwrthrychau mewn tri dimensiwn. 

 

 


Apple 5k iMac gyda Sgriniau Ochr Thunderbolt 
mac

Gan ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf, mae’r iMac yn wych ar gyfer golygu fideo neu sain. Mae hefyd yn meddu ar ddigon o bŵer ar gyfer y feddalwedd sy’n defnyddio’r swm mwyaf o adnoddau oherwydd ei brosesydd cyflym iawn. 

 

 

 


Cyfarpar Arall 

Mae 10 llechen gennym sy’n cynnwys Apple iPad, Llechen Samsung Galaxy a Llechen Lenovo Thinkpad, sy’n wych ar gyfer busnesau modern symudol. Mae sgringyffwrdd 70” gennym hefyd sy’n wych ar gyfer gwneud cyflwyniadau. 

Mae ein derbynfa hefyd yn cynnwys murfideo 165”, sy’n arddangos project Caerdydd Ddigidol yn ogystal â’r newyddion technoleg diweddaraf.

video wall   tablets   laptop   

presentation   meeting1   meeting2

Os hoffai eich busnes ymweld â ni, mae croeso i chi gysylltu â ni. Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law ac yn hapus i'ch helpu.

Twitter icon
Latest Tweets
Are you looking for funding to support your business needs? Drop-in sessions available on October 4th & 5th https://t.co/h6FqSRIRrl