Mae Talebau Cysylltedd ar gael i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) Caerdydd i dalu'r costau o osod band eang cyflymach, gwell.
A fydd yn werth chweil?
Mae'r broses ymgeisio'n gymharol syml, a pha mor aml ydych chi'n cael cynnig rhywbeth am ddim? Dyna'i diwedd hi!
Sut y bydd busnesau'n manteisio?
Bydd band eang cyflym o ansawdd yn sicrhau bod busnesau'n fwy effeithlon ac yn gwella refeniw, gan sicrhau mantais gystadleuol yn y farchnad.
Bydd buddsoddiad yn gwella effeithlonrwydd BBaCh drwy wella cynhyrchiant, lleihau costau trafodion a'u galluogi i fanteisio ar arbedion maint a gwasanaethau sydd ond yn fforddiadwy i gwmnïau corfforaethol mwy. Bydd cysylltedd gwell, mwy fforddiadwy yn galluogi BBaCh i ryngweithio mewn ffyrdd newydd gyda chwsmeriaid a chyflenwyr, gan ryngweithio'n fwy yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a hwyluso mewnforion/allforion na fyddai modd eu gwneud fel arall. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd BBaCh yn sylweddol drwy leihau amseroedd arweiniol a chostau dosbarthu, ac yn eu helpu i weithio'n effeithiol gyda chwsmeriaid a chyflenwyr gan arwain at arbedion effeithlonrwydd pellach a mwy o refeniw yn sgil hynny.